Ni ddichon byd a'i holl deganau Fodloni fy serchiadau nawr, A enillwyd, a ehangwyd Yn nydd nerth fy Iesu mawr; Ef, nid llai, a all eu llenwi Er mor ddiamgyffred yw, O am syllu ar ei Berson, Ffel y mae yn ddyn a Duw. O! na chawn i dreulio 'nyddiau Yn fywyd o ddyrchafu ei waed; Llechu'n dawel dan ei gysgod, Byw a marw wrth ei draed; Cario'r groes, a phara i'w chodi, Am mai croes fy Mhriod yw, Ymddifyrru yn ei Berson, A'i addoli byth yn Dduw.Ann Griffiths 1776-1805
Tonau [~8787D]: gwelir: Nid oes gwrthddrych ar y ddaear O am fywyd o sancteiddio |
The world and all its trinkets cannot Satisfy my affections now, Which were won, and broadened In the day of the power of my great Jesus; He, no less, who can fill them Although so incomprehensible it is, O to gaze on his Person, As he is as man and God. O that I may spend my days In a life of exalting his blood; Hiding quietly under his shade, Living and dying by his feet; Carrying the cross, and continuing to raise it, For it is the cross of my Husband, Delighting in his Person, And adoring him forever in God.tr. 2009 Richard B Gillion |
Earth cannot, with all its trinkets, |